Hanesion a Chaneuon o Dair Wlad Celtaidd

Chwedleuon yn dathlu’r Calendr Celtaidd a thraddodiadau lleol

Y Golau’n Codi: Mai 1af, 2021

Calan Mai yw Beltane, ennyd o egni yn y flwyddyn.  Rydym yn diffodd hen fflamau a chynnau rhai newydd; rydym yn rhedeg pellteroedd ac yn neidio dros goelcerthi.  Rydym yn addurno’n hunain, ein cartrefi, a’n ffynonellau dŵr gyda’r blodau mwyaf melyn a llachar.  Dyma’r cyfnod i ddathlu ieuenctid, gweithwyr, a symbylu cryfder.  Dyma’r bumed ddigwyddiad yn y gyfres The Gather in Collective, cydweithrediad rhwng tair chwedleuwr benywaidd – Maria Gillen o’r Iwerddon, Shona Cowie o’r Alban, a Kama Roberts o Gymru.  Ymuna gwestai arbennig, Daniel Alison.  Gyda diolch i James Jones-Morris am y gwaith celf.

Y Golau’n Alinio: Mawrth 21ain, 2021

Dyma’r bedwaredd ddigwyddiad mewn cyfres sy’n dathlu’r Calendr Celtaidd a chydweithrediad cyffrous rhwng tair chwedleuwr benywaidd – Maria Gillen o’r Iwerddon, Shona Cowie o’r Alban, a Kama Roberts o Gymru.  Cyhydnos y Gwanwyn yw’r adeg pan ddaw popeth at ei gilydd yn berffaith.  Mae’n gyfle i ddathlu’r tyfiant newydd sy’n blaguro o dywylltwch y gaeaf – ac mae’r rhan fwyaf ohonom wedi bod yn fwy ymwybodol o’r tywyllwch yn fwy nag erioed eleni. 

 

Diolch i Toby Hay am y gerddoriaeth a James Jones-Morris am y gwaith celf.

Y Gwanwyn yn Deffro: Chwefrof 1af, 2021

Mae’r chwedleuwyr Maria Gillen, Shona Cowie a Kama Roberts yn dychwelyd gyda chwedlau a chaneuon o’u Gwledydd Celtaidd.  Dyma’r drydedd ddigwyddiad gan y triawd, mewn cyfres sy’n dathlu’r calendr o rialtwch Celtaidd trwy chwedlau a thraddodiadau, hen a newydd, o’r Iwerddon, Alban a Chymru. 

 

Mae diwrnod Santes Brid yn yr Iwerddon yn ddigwyddiad pwysig ac felly y tro hwn felly y tro hwn Maria Gillen fydd y gwestai. 

 

Gyda diolch i’r gwesteion arbennig: Paddy Reagan, Davóg Rynne, a Nuala Hayes.

Dychweliad y Goleuni: Rhagfyr 20fed, 2020

Mae’n hyfryd ein bod yn ymgasglu unwaith eto i rannu chwedlau o’r Iwerddon, yr Alban a Chymru.  Fe fyddwn yn cydnabod doethineb yr hen draddodiadau ac yn gwneud rhai newydd wrth i ni ffarwelio â’r flwyddyn sydd wedi bod a chroesawu goleuni newydd, cynhesrwydd a bwriadau’r flwyddyn sydd i ddod.  Yn yr hen amser roedd yn arferol i bobl Cymru gosod lle ychwanegol wrth y bwrdd ar gyfer unrhyw westai annisgwyl, ac yn yr un modd rydym yn gosod lle i chi – rydym yn eich gwahodd i fwyta ac i yfed gyda ni tra’n gwrando ar y chwedleuon.

 

Delwedd: tociad o fersiwn o ddarlun gan James Jones-Morris. 

Cerddoriaeth: ALAW ‘santiana’ www.alaw-band.com

Crynhoi i Mewn: Tachwedd 1af, 2020

Noson arbennig o chwedleuon Calan Gaeaf traddodiadol o dair wlad Geltaidd. Fe fydd y dair chwedleuwr (Maria Gillen, Shona Cowie a Kama Roberts) o’r Iwerddon, yr Alban a Chymru yn cyfuno eu traddodiadau, caneuon, a chwedlau i blethu taith hudol wedi’i hysbrydoli gan Samhain a Chalan Gaeaf.

 

Nid yw’r digwyddiad hwn yn addas ar gyfer plant a gall fod yn frawychus.  Fe fydd angen arweiniad rhieni.  Darlledwyd y digwyddiad yma yn fyw ar Zoom ar y 1af o Dachwedd.

Delwedd: James Jones-Morris

Cerddoriaeth: ALAW ‘santiana’ www.alaw-band.com