Hanes Lleol

Mae Rhaeadr yn dre sydd â threftadaeth gyfoethog.  Ymchwiliwch yr iaith leol trwy gymryd rhan yn y cwis – a gwiriwch ein geiriadur ar dafodiaith sydd isod!

Rhannwch eich canlyniadau cwis ar gyfryngau cymdeithasol ac ymunwch yn y drafodaeth.

Traddodiadau a Newidiadau 2020

Pobl lleol yn myfyrio ar gyfnod y Nadolig, beth mae’n golygu iddynt, a’u hanesion eu hunain.

Fel gyda llawer o bethau eraill yn ystod  cyfnod pandemig y coronafeirws, fe wnaethpwyd hyn o dan gynfyngiadau cadw pellter.  Cafodd ei recordio’n bennaf dros Zoom, gydag ansawdd y fideo a sain sy’n ran ohono.  Dyma sut oedd ein bywydau yn ystod 2020.

Gyda diolch i’n cyfranwyr:
Kerena Pugh, Ellen Cox, Jane Narborough, Sandra Betty, Catherine Allan, Krysia Bass, Jen Newman, Jill Exton, Pippa Boss, Ric Johnson, Reverend Lance Sharp, Del Ho Sang, and Naoko ‘ Yogi’ Takiguchi.
Ein tîm cynhyrchu: Catherine Allan, Krysia Bass, Matt Rose, and Aster Woods
Diolch arbennig i Brif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, am ddefnydd o’i araith o fis Rhagfyr 2020 yn ymwneud â chynfyngiadau’r coronofeirws
Gwnaed yn bosibl gan Gronfa Gydlyniad Cymuned Llywodraeth Cymru.

 

Ymddiheurwn ond ar hyn o bryd mae cwis llafar Rhaeadr ond ar gael yn Saesneg.

Chwedl y Ddwy Goeden

Mae chwedl Coed Nadolig Rhaeadr a Chwmdeuddwr yn draddoliad lleol pwysig.

Gwyliwch y ffilm amdano yma!

Cafodd ei wneud yn 2014, gyda darn o ffilm wedi’i ddyddio’n ôl i’r 90au cynnar.

Cynhyrchiwyd a chyfarwyddwyd gan Alan Samuel, Ric Johnson a Toby Hay.

 

Tlysau Rhaeadr

Mae’r fideo hwn yn disgrifio darganfod Tlysau byd enwog Rhaeadr, casgliad Rhufeinig, sydd ar hyn o bryd yn cael ei arddangos yn yr Amgueddfa Prydeinig.

Mae hefyd yn rhoi manylion am ddarganfyddiad Torch Llanwrthwl o’r Oes Efydd, sydd ar hyn o bryd yn cael ei arddangos yn Amgueddfa Genedlaethol Cymru.

Cynhyrchiad Grŵp Ffilm Gwirfoddolwyr CARAD, mis Mehefin 2011
Cefnogwyd gan Redweather Productions
Gyda diolch i’r holl gyfranwyr.