Grŵp Cynllunio ac Ymchwil
Mae CARAD yn ailddatblygu Amgueddfa Rhaeadr er mwyn ymestyn gofod yr oriel. Rydym eisiau adeiladu ar ein ymgynghoriadau cymunedol blaenorol a chyfredol, sy’n rhoi i ni destunau newydd a syniadau diddorol i’w harchwilio. Fel gyda phrosiectau cymunedol llwyddiannus y gorffennol, rydym eisiau dod â grŵp o bobl sydd â diddordeb at ei gilydd i weithio gyda chynllunydd proffesiynol er mwyn dod â’r syniadau’n fyw. Fe fyddwn yn dysgu oddi wrth ein gilydd a chreu gofod newydd gwych. Os oes gennych chi ddiddordeb mewn ymchwil, cynllunio gwagleoedd neu arddangosfeydd neu eisiau bod yn rhan i ddarganfod eich diddordeb, cysylltwch â ni. Mae hwn yn gyfle cadarnhaol, sy’n edrych tuag at y dyfodol a fydd yn effaith hir dymor ar ein cymuned leol, ysgolion ac ymwelwyr fel ei gilydd.
Rydym yn ofalus ynghlŷn â diogelwch Cofid ac fe fyddwn yn trefnu cyfarfodydd sy’n ddiogel o ran Cofid, gan ddechrau ym mis Gorffennaf yn unol â chanllawiau.
Cysylltwch â ni erbyn diwedd mis Mehefin i ddechrau:
e-bost: all@carad.org.uk
Ein tudalen Facebook: CARAD Rhayader Museum and Gallery
Os nad oes gennych fynediad at y rhyngrwyd, rhowch nodyn drwy ein drws.
Neu ffoniwch 01597810561 (er nad yw’r rhif hwn yn cael ei fonitro bob dydd.)