Ysbrydolwyd y gweithgareddau hyn gan y teils canoloesol sydd gennym yng Nghasgliad yr Amgueddfa, sy’n dod o Abaty Ystrad Fflur nepell o Raeadr.
Ychydig iawn o deils canoloesol sydd wedi goroesi hyd heddiw – yn ystod diddymiad y mynachlogydd (1536 – 1541) fe gyhoeddodd Brenin Harri’r VIII ei hun yn ben ar yr Eglwys yn Lloegr, gan gipio cyfoeth yr urddau crefyddol a oedd yn gysylltiedig ag Ewrop a’r Pab. Roedd gan abatai megis Ystrad Fflur llawer o gyfoeth, a dyna sut yr oeddynt yn gallu fforddio cymaint o’r teils prydferth yma. Mae eu goroesiad yn hynod.
Fe’u dadorchuddiwyd tra’n cloddio yn yr 1880au, gan wneud Ystrad Fflur yn gyrchfan poblogaidd i dwristiaid Fictorianaidd – er i nifer o’r teils gael eu cipio fel swfeniriau!
Gwnaethpwyd y teils hyn gan grefftwr teithiol yn yr unfed ganrif ar bymtheg. Dros 400 can mlynedd yn ôl!
Gwnaethpwyd y rhan fwyaf o deils canoloesol allan o glai a balwyd o wely’r afon (mae’n bosib bod y clai wedi dod o Afon Teifi, sydd yn llifo yr abaty).
Gadawyd y clai ar bwrdd tu allan dros y gaeaf fel bod y glaw, eira a rhew yn gallu trwytholchi’r amhureddau allan ohono. Yna fe’i malwyd yn fân – gan ei droi’n bowdr mân, llyfn fel past. Yna fe’i ffurfiwyd i wneud siâp sgwâr, a’i haddurno, naill a’i trwy gwthio mowldiau i greu patrymau, neu i beintio drostynt. Gwyrdrowyd rhai gan ddefnyddio alcam, er mwyn creu gwahanol lliwiau, neu fe’i briddaddurnwyd yn ofalus gyda chlai o liwiau cyferbyniol.
Rhowch gynnig ar Dechnegau Gwneud Teils Canoloesol
Os nad oes gennych glai puredig o’r afon wrth law, mae toes halen yn gweithio’n dda – mae rysáit dda ar ei gyfer yn y cyfarwyddyd crefft. Addas ar gyfer pob oedran!
Teiliwch lawr canoloesol
Yn wreiddiol, gosodwyd y teils ar lawr yr abaty, ac ond gwestai arbennig a chôr y mynachod oedd â’r hawl i sefyll arnynt. Roedd eu gosod yn dasg bwysig iawn, ac mae gan nifer o’r teils patrymau sy’n “ymuno” er mwyn creu patrwm mwy.
Have a go at tiling a floor and seeing for yourself how the patterns can go.